41 Y cyfanswm oedd: Israeliaid deuddeg oed a mwy, heblaw eu gweision a'u morynion, yn bedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg;
42 eu gweision a'u morynion yn saith mil tri chant tri deg a saith; a'r cantorion a'r cantoresau yn ddau gant pedwar deg a phump.
43 Yr oedd ganddynt bedwar cant tri deg a phump o gamelod, saith mil tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump a fulod, a phum mil pum cant dau ddeg a phump o asynnod.
44 Pan ddaethant i deml Duw yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd i godi'r tŷ ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu,
45 ac i roi i drysorfa'r deml ar gyfer y gwaith fil mina o aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.
46 Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem a'r cyffiniau, a'r cantorion, y porthorion a holl Israel yn eu trefi.
47 Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu cartrefi, ymgasglasant fel un gŵr i'r sgwâr o flaen y porth cyntaf yn wynebu'r dwyrain.