44 Pan ddaethant i deml Duw yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd i godi'r tŷ ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu,
45 ac i roi i drysorfa'r deml ar gyfer y gwaith fil mina o aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.
46 Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem a'r cyffiniau, a'r cantorion, y porthorion a holl Israel yn eu trefi.
47 Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu cartrefi, ymgasglasant fel un gŵr i'r sgwâr o flaen y porth cyntaf yn wynebu'r dwyrain.
48 Yna cododd Jesua fab Josedec a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i deulu, a pharatoi allor Duw Israel
49 er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, gŵr Duw.
50 Ymunodd rhai o bobloedd eraill y wlad â hwy. Codasant yr allor yn ei lle, er bod pobloedd y wlad yn gyffredinol yn elyniaethus iddynt ac yn gryfach na hwy, ac offrymasant aberthau yn eu priod amser a phoethoffrymau i'r Arglwydd fore a hwyr.