54 Yna rhoesant arian i'r seiri meini a'r seiri coed, a bwyd a diod
55 a cherti i'r Sidoniaid a'r Tyriaid, i gyrchu cedrwydd o Libanus a dod â hwy ar wyneb y dŵr i borthladd Jopa yn unol â'r cennad a roddwyd iddynt gan Cyrus brenin Persia.
56 Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddo ddychwelyd i deml Duw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel ar y gwaith, ynghyd â Jesua fab Josedec a'u brodyr a'r offeiriaid Lefitaidd a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem.
57 Gosodasant sylfaen teml Duw ar ddydd cyntaf yr ail fis o'r ail flwyddyn wedi iddynt gyrraedd Jwdea a Jerwsalem.
58 Penodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith yr Arglwydd, ac fel un gŵr cododd Jesua a'i feibion a'i frodyr, Cadmiel ei frawd, meibion Jesua Emadabun a meibion Joda fab Iliadun ynghyd â'i feibion a'i frodyr, yr holl Lefiaid, a gyrru ymlaen â'r gwaith ar dŷ Dduw. Felly y cododd yr adeiladwyr deml yr Arglwydd.
59 Safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gydag offerynnau cerdd ac utgyrn, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau,
60 i foliannu'r Arglwydd a'i fendithio yn ôl gorchymyn Dafydd brenin Israel.