57 Gosodasant sylfaen teml Duw ar ddydd cyntaf yr ail fis o'r ail flwyddyn wedi iddynt gyrraedd Jwdea a Jerwsalem.
58 Penodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith yr Arglwydd, ac fel un gŵr cododd Jesua a'i feibion a'i frodyr, Cadmiel ei frawd, meibion Jesua Emadabun a meibion Joda fab Iliadun ynghyd â'i feibion a'i frodyr, yr holl Lefiaid, a gyrru ymlaen â'r gwaith ar dŷ Dduw. Felly y cododd yr adeiladwyr deml yr Arglwydd.
59 Safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gydag offerynnau cerdd ac utgyrn, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau,
60 i foliannu'r Arglwydd a'i fendithio yn ôl gorchymyn Dafydd brenin Israel.
61 Canasant emynau'n moliannu'r Arglwydd am fod ei ddaioni a'i ogoniant yn dragwyddol ar holl Israel.
62 Yna seiniodd yr holl bobl utgyrn, a bloeddio'n uchel mewn moliant i'r Arglwydd wrth i dŷ'r Arglwydd godi.
63 Daeth rhai o'r offeiriaid Lefitaidd a'r pennau-teuluoedd, a oedd yn ddigon hen i fod wedi gweld y tŷ cyntaf, at y gwaith adeiladu hwn â llefain ac wylofain mawr,