61 Canasant emynau'n moliannu'r Arglwydd am fod ei ddaioni a'i ogoniant yn dragwyddol ar holl Israel.
62 Yna seiniodd yr holl bobl utgyrn, a bloeddio'n uchel mewn moliant i'r Arglwydd wrth i dŷ'r Arglwydd godi.
63 Daeth rhai o'r offeiriaid Lefitaidd a'r pennau-teuluoedd, a oedd yn ddigon hen i fod wedi gweld y tŷ cyntaf, at y gwaith adeiladu hwn â llefain ac wylofain mawr,
64 a daeth eraill lawer â'u hutgyrn a seinio'u llawenydd â sŵn mawr;
65 ond ni allai'r bobl glywed yr utgyrn oherwydd sŵn y bobl yn wylo, er bod y dyrfa'n seinio'r utgyrn mor uchel nes bod y sŵn i'w glywed o bell.
66 Pan glywodd gelynion llwyth Jwda a Benjamin, daethant i weld beth oedd ystyr sŵn yr utgyrn.
67 Wedi darganfod fod y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud yn adeiladu'r deml i Arglwydd Dduw Israel,