65 ond ni allai'r bobl glywed yr utgyrn oherwydd sŵn y bobl yn wylo, er bod y dyrfa'n seinio'r utgyrn mor uchel nes bod y sŵn i'w glywed o bell.
66 Pan glywodd gelynion llwyth Jwda a Benjamin, daethant i weld beth oedd ystyr sŵn yr utgyrn.
67 Wedi darganfod fod y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud yn adeiladu'r deml i Arglwydd Dduw Israel,
68 daethant at Sorobabel a Jesua a'r pennau-teuluoedd a dweud wrthynt: “Gadewch i ni adeiladu gyda chwi,
69 oherwydd yr ydym ni'n ufuddhau i'r Arglwydd fel chwithau, ac iddo ef hefyd yr ydym wedi aberthu er amser Asbasareth brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”
70 Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a phennau-teuluoedd Israel wrthynt: “Nid oes a wneloch chwi ddim â ni i adeiladu tŷ i'r Arglwydd ein Duw;
71 ni yn unig sydd i adeiladu i Arglwydd Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”