69 oherwydd yr ydym ni'n ufuddhau i'r Arglwydd fel chwithau, ac iddo ef hefyd yr ydym wedi aberthu er amser Asbasareth brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”
70 Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a phennau-teuluoedd Israel wrthynt: “Nid oes a wneloch chwi ddim â ni i adeiladu tŷ i'r Arglwydd ein Duw;
71 ni yn unig sydd i adeiladu i Arglwydd Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”
72 Yna aflonyddodd pobloedd y wlad yn drwm ar drigolion Jwda, gan osod gwarchae arnynt a'u rhwystro rhag adeiladu,
73 a thrwy gynllwynion a chreu terfysg a chyffro eu hatal rhag cwblhau'r adeilad holl ddyddiau'r Brenin Cyrus. Fe'u rhwystrwyd rhag adeiladu am ddwy flynedd hyd at deyrnasiad y Brenin Dareius.