11 Cynifer felly ag sy'n awyddus i fynd, cânt gychwyn gyda chwi, fel y penderfynais i a'm saith Cyfaill, fy nghynghorwyr,
12 i wneud arolwg o gyflwr Jwda a Jerwsalem yn unol â'r hyn sydd yng nghyfraith yr Arglwydd,
13 ac i gludo i Jerwsalem i Arglwydd Israel y rhoddion a addunedais i a'm cyfeillion, ac i ddwyn yr holl aur ac arian y gellir eu darganfod yng ngwlad Babilon, ynghyd â'r hyn a gyfrannwyd gan y genedl at deml eu Harglwydd yn Jerwsalem.
14 Gwarier yr aur a'r arian ar deirw, hyrddod ac ŵyn, a phethau cysylltiedig â hwy,
15 er mwyn offrymu aberthau ar allor yr Arglwydd yn Jerwsalem.
16 Beth bynnag y byddi di a'th deulu yn dymuno'i wneud â'r aur a'r arian, gwna hynny yn ôl ewyllys dy Dduw,
17 a'r un modd â'r llestri sanctaidd a roddir iti at wasanaeth teml dy Dduw yn Jerwsalem.