21 Y mae holl ofynion cyfraith Duw i'w cyflawni'n ddiwyd er clod i'r Duw Goruchaf, rhag i'w ddigofaint ddisgyn ar deyrnas y brenin a'i feibion.
22 Rhoddir hefyd ar ddeall ichwi nad oes unrhyw dreth na tholl arall i'w gosod ar neb o'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, porthorion, gweision y deml na gweithwyr y deml hon; ac nad oes gan neb awdurdod i fynnu dim ganddynt.
23 Ac yr wyt tithau, Esra, yn unol â doethineb Duw, i benodi barnwyr ac ustusiaid i farnu pawb yn holl Syria a Phenice sy'n gwybod cyfraith dy Dduw; ac yr wyt i ddysgu'r rhai sydd heb ei gwybod.
24 Pob un sy'n troseddu cyfraith dy Dduw a chyfraith y brenin, y mae i'w ddedfrydu'n ddi-oed naill ai i farwolaeth neu i ryw gosb arall, boed ddirwy neu garchar.”
25 Meddai Esra, “Bendigedig fyddo'r unig Arglwydd, a symbylodd y brenin i harddu ei dŷ yn Jerwsalem,
26 ac a barodd i mi gael ffafr gan y brenin a'i gynghorwyr a'i holl gyfeillion a'i bendefigion.
27 Am fod yr Arglwydd fy Nuw yn fy nghynorthwyo, ymwrolais a chasglu gwŷr o Israel i fynd i fyny gyda mi.