26 ac a barodd i mi gael ffafr gan y brenin a'i gynghorwyr a'i holl gyfeillion a'i bendefigion.
27 Am fod yr Arglwydd fy Nuw yn fy nghynorthwyo, ymwrolais a chasglu gwŷr o Israel i fynd i fyny gyda mi.
28 “Dyma'r arweinwyr, yn ôl eu teuluoedd a'u hadrannau, a ddaeth i fyny gyda mi o Fabilon yn nheyrnasiad y Brenin Artaxerxes:
29 o deulu Phinees, Gersom; o deulu Ithamar, Gamelus; o deulu Dafydd, Attus fab Sechenias.
30 O deulu Phoros, Sacharias, a chant a hanner o ddynion wedi eu rhestru gydag ef.
31 O deulu Phaath-Moab, Eliaonias fab Saraias, a dau gant o ddynion gydag ef.
32 O deulu Sathoe, Sechenias fab Jeselus, a thri chant o ddynion gydag ef; o deulu Adin, Obeth fab Jonathan, a dau gant a hanner o ddynion gydag ef.