36 O deulu Bani, Assalimoth fab Josaffias, a chant chwe deg o ddynion gydag ef.
37 O deulu Babi, Sacharias fab Bebai, a dau ddeg wyth o ddynion gydag ef.
38 O deulu Asgath, Joanes fab Hacatan, a chant a deg o ddynion gydag ef.
39 O deulu Adonicam, y rhai olaf, a'u henwau yw: Eliffalatus, Jewel a Samaias, a saith deg o ddynion gyda hwy.
40 O deulu Bago, Wthi fab Istalcwrus, a saith deg o ddynion gydag ef.
41 “Cesglais hwy ynghyd wrth yr afon a elwir Theras, a buom yn gwersyllu yno dridiau, ac archwiliais hwy.
42 Ac wedi canfod nad oedd yno neb o linach yr offeiriaid na neb o'r Lefiaid,