54 “Yna neilltuais ddeuddeg o benaethiaid yr offeiriaid, Serebias ac Asabias a deg o'u brodyr gyda hwy,
55 a phwysais iddynt yr arian a'r aur a llestri sanctaidd tŷ ein Harglwydd, rhoddion gan y brenin ei hun a'i gynghorwyr a'i dywysogion a holl Israel.
56 Wedi ei bwyso trosglwyddais i'w gofal chwe chant a hanner o dalentau o arian, llestri arian gwerth can talent, a chan talent o aur,
57 ac ugain o lestri aur, a deuddeg llestr o bres, ie, o'r pres gorau sy'n disgleirio fel aur.
58 A dywedais wrthynt, ‘Yr ydych chwi'n gysegredig i'r Arglwydd, ac y mae'r llestri'n gysegredig, ac offrwm adduned i'r Arglwydd, Arglwydd ein hynafiaid, yw'r arian a'r aur.
59 Byddwch effro a gwyliwch drostynt hyd nes ichwi eu trosglwyddo i benaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid a phennau-teuluoedd Israel yn Jerwsalem, yn ystafelloedd yr offeiriaid yn nhŷ ein Harglwydd.’
60 A chymerodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yr arian a'r aur a'r llestri a berthynai i Jerwsalem, a'u dwyn i deml yr Arglwydd.