6 yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes, yn y pumed mis (hon oedd seithfed flwyddyn y brenin). Gadawsant Fabilon ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, a chyrraedd Jerwsalem ar y dydd cyntaf o'r pumed mis, oherwydd i'r Arglwydd roi iddynt daith rwydd er ei fwyn.
7 Meddai Esra ar wybodaeth mor llwyr fel nad esgeulusai unrhyw ran o gyfraith yr Arglwydd na'i gorchmynion, a dysgai i Israel gyfan y deddfau a'r barnedigaethau i gyd.
8 Dyma gopi o'r gorchymyn ysgrifenedig a ddaeth oddi wrth y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd:
9 “Y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd, cyfarchion.
10 Yn unol â'm penderfyniad tirion, gorchmynnais y caiff pwy bynnag o genedl yr Iddewon ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid, ac eraill yn ein teyrnas sy'n dymuno ac yn dewis gwneud hynny, fynd gyda thi i Jerwsalem.
11 Cynifer felly ag sy'n awyddus i fynd, cânt gychwyn gyda chwi, fel y penderfynais i a'm saith Cyfaill, fy nghynghorwyr,
12 i wneud arolwg o gyflwr Jwda a Jerwsalem yn unol â'r hyn sydd yng nghyfraith yr Arglwydd,