61 “Gadawsom Afon Theras ar y deuddegfed dydd o'r mis cyntaf a chyrraedd Jerwsalem, oherwydd yr oedd llaw nerthol ein Harglwydd gyda ni. Gwaredodd ni oddi wrth bob gelyn ar y ffordd, ac felly y daethom i Jerwsalem.
62 Wedi inni fod yno dridiau, pwyswyd yr arian a'r aur a'u trosglwyddo yn nhŷ ein Harglwydd i Marmoth fab Wria yr offeiriad;
63 a chydag ef yr oedd Eleasar fab Phinees. Yr oedd y Lefiaid, Josabdus fab Jesua a Möeth fab Sabannus, hefyd gyda hwy. Gwnaed cyfrif o'r cwbl a'u pwyso;
64 cofnodwyd pwysau popeth yr un pryd.
65 Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud aberthau i'r Arglwydd, Duw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod,
66 saith deg a dau o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth hedd; yr oedd y cwbl yn offrwm i'r Arglwydd.
67 Hefyd rhoesant orchmynion y brenin i'r trysoryddion brenhinol a'r llywodraethwyr yn Celo-Syria a Phenice, a rhoes y rheini anrhydedd i'r genedl ac i deml yr Arglwydd.”