63 a chydag ef yr oedd Eleasar fab Phinees. Yr oedd y Lefiaid, Josabdus fab Jesua a Möeth fab Sabannus, hefyd gyda hwy. Gwnaed cyfrif o'r cwbl a'u pwyso;
64 cofnodwyd pwysau popeth yr un pryd.
65 Offrymodd y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud aberthau i'r Arglwydd, Duw Israel: deuddeg bustach dros holl Israel, naw deg a chwech o hyrddod,
66 saith deg a dau o ŵyn, a deuddeg bwch yn aberth hedd; yr oedd y cwbl yn offrwm i'r Arglwydd.
67 Hefyd rhoesant orchmynion y brenin i'r trysoryddion brenhinol a'r llywodraethwyr yn Celo-Syria a Phenice, a rhoes y rheini anrhydedd i'r genedl ac i deml yr Arglwydd.”
68 “Wedi cwblhau'r pethau hyn daeth y penaethiaid ataf a dweud,
69 ‘Nid yw pobl Israel, na'u llywodraethwyr, na'r offeiriaid na'r Lefiaid, wedi ymneilltuo oddi wrth frodorion cenhedlig y wlad a'u haflendid—y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid a'r Edomiaid.