69 ‘Nid yw pobl Israel, na'u llywodraethwyr, na'r offeiriaid na'r Lefiaid, wedi ymneilltuo oddi wrth frodorion cenhedlig y wlad a'u haflendid—y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, y Moabiaid, yr Eifftiaid a'r Edomiaid.
70 Y maent wedi cymryd merched y rheini yn wragedd iddynt hwy a'u meibion, a chymysgu'r hil sanctaidd â brodorion cenhedlig y wlad; bu gan yr arweinwyr a'r penaethiaid ran yn y camwedd hwn o'r cychwyn.’
71 Cyn gynted ag y clywais hyn, rhwygais fy nillad a'm mantell sanctaidd, tynnais wallt fy mhen a'm barf, ac eisteddais yn syn ac yn drist iawn.
72 Ymgasglodd ataf yr holl rai a gynhyrfwyd y pryd hynny gan air Arglwydd Israel wrth inni alaru dros y camwedd hwn, ac eisteddais yn drist iawn hyd amser yr offrwm hwyrol.
73 Yna codais o'm hympryd, a'm dillad a'm mantell sanctaidd amdanaf wedi eu rhwygo, a phenliniais a lledu fy nwylo o flaen yr Arglwydd
74 a dweud, ‘O Arglwydd, yr wyf mewn gwaradwydd a chywilydd ger dy fron,
75 oherwydd pentyrrodd ein pechodau yn uwch na'n pennau a chododd ein cyfeiliornadau hyd y nefoedd.