71 Cyn gynted ag y clywais hyn, rhwygais fy nillad a'm mantell sanctaidd, tynnais wallt fy mhen a'm barf, ac eisteddais yn syn ac yn drist iawn.
72 Ymgasglodd ataf yr holl rai a gynhyrfwyd y pryd hynny gan air Arglwydd Israel wrth inni alaru dros y camwedd hwn, ac eisteddais yn drist iawn hyd amser yr offrwm hwyrol.
73 Yna codais o'm hympryd, a'm dillad a'm mantell sanctaidd amdanaf wedi eu rhwygo, a phenliniais a lledu fy nwylo o flaen yr Arglwydd
74 a dweud, ‘O Arglwydd, yr wyf mewn gwaradwydd a chywilydd ger dy fron,
75 oherwydd pentyrrodd ein pechodau yn uwch na'n pennau a chododd ein cyfeiliornadau hyd y nefoedd.
76 Felly y bu o ddyddiau ein hynafiaid, ac yr ydym yn dal mewn pechod mawr hyd y dydd hwn.
77 Ac oherwydd ein pechodau ni a phechodau einhynafiaid fe'n traddodwyd ni, ynghyd â'n brodyr, ein brenhinoedd a'n hoffeiriaid, i afael brenhinoedd y ddaear, i'r cleddyf ac i gaethiwed, i anrhaith a gwarth hyd y dydd hwn.