74 a dweud, ‘O Arglwydd, yr wyf mewn gwaradwydd a chywilydd ger dy fron,
75 oherwydd pentyrrodd ein pechodau yn uwch na'n pennau a chododd ein cyfeiliornadau hyd y nefoedd.
76 Felly y bu o ddyddiau ein hynafiaid, ac yr ydym yn dal mewn pechod mawr hyd y dydd hwn.
77 Ac oherwydd ein pechodau ni a phechodau einhynafiaid fe'n traddodwyd ni, ynghyd â'n brodyr, ein brenhinoedd a'n hoffeiriaid, i afael brenhinoedd y ddaear, i'r cleddyf ac i gaethiwed, i anrhaith a gwarth hyd y dydd hwn.
78 Ac yn awr, mor fawr yw dy drugaredd tuag atom, O Arglwydd, gan iti adael gwreiddyn ac enw yn dy le sanctaidd,
79 ac ailgynnau ein goleuni yn nhŷ ein Harglwydd, a rhoi cynhaliaeth i ni yn amser ein caethiwed.
80 Hyd yn oed yn ein caethiwed ni'n gadawyd gan ein Harglwydd: parodd i frenhinoedd Persia edrych â ffafr arnom a rhoi bwyd inni,