8 Dyma gopi o'r gorchymyn ysgrifenedig a ddaeth oddi wrth y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd:
9 “Y Brenin Artaxerxes at Esra'r offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd, cyfarchion.
10 Yn unol â'm penderfyniad tirion, gorchmynnais y caiff pwy bynnag o genedl yr Iddewon ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid, ac eraill yn ein teyrnas sy'n dymuno ac yn dewis gwneud hynny, fynd gyda thi i Jerwsalem.
11 Cynifer felly ag sy'n awyddus i fynd, cânt gychwyn gyda chwi, fel y penderfynais i a'm saith Cyfaill, fy nghynghorwyr,
12 i wneud arolwg o gyflwr Jwda a Jerwsalem yn unol â'r hyn sydd yng nghyfraith yr Arglwydd,
13 ac i gludo i Jerwsalem i Arglwydd Israel y rhoddion a addunedais i a'm cyfeillion, ac i ddwyn yr holl aur ac arian y gellir eu darganfod yng ngwlad Babilon, ynghyd â'r hyn a gyfrannwyd gan y genedl at deml eu Harglwydd yn Jerwsalem.
14 Gwarier yr aur a'r arian ar deirw, hyrddod ac ŵyn, a phethau cysylltiedig â hwy,