36 Yr oedd y rhain i gyd wedi priodi gwragedd estron, a throesant hwy allan gyda'u plant.
37 Gwladychodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a'r Israeliaid yn Jerwsalem a'i chyffiniau. Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis, a'r Israeliaid yn awr yn eu gwladfeydd,
38 ymgasglodd yr holl gynulleidfa fel un gŵr ar y sgwâr o flaen porth dwyreiniol y deml,
39 a galw ar Esra yr archoffeiriad a'r darllenydd i ddod â chyfraith Moses, a roddwyd gan Arglwydd Dduw Israel.
40 Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra'r archoffeiriad â'r gyfraith o flaen yr holl gynulleidfa, yn wŷr a gwragedd, a'r holl offeiriaid, iddynt ei chlywed.
41 Darllenodd ohoni ar y sgwâr o flaen porth y deml o doriad gwawr hyd hanner dydd yng ngŵydd y gwŷr a'r gwragedd, a gwrandawodd yr holl gynulleidfa'n astud ar y gyfraith.
42 Yr oedd Esra, yr offeiriad a darllenydd y gyfraith, ar lwyfan pren wedi ei ddarparu i'r diben.