20 Flynyddoedd lawer wedyn, pan benderfynodd Duw hynny, anfonwyd Nehemeia'n ôl gan frenin Persia, a gyrrodd yntau ddisgynyddion yr offeiriaid oedd wedi cuddio'r tân i'w gyrchu'n ôl. Ac wedi iddynt hwy egluro inni nad tân y cawsant hyd iddo, ond hylif trwchus, gorchmynnodd ef iddynt godi peth ohono a'i ddwyn ato.
21 Wedi cyflwyno defnyddiau'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia i'r offeiriaid daenellu'r hylif dros y coed a'r hyn oedd yn gorwedd arno.
22 Gwnaethpwyd hyn, ac aeth peth amser heibio. Yna disgleiriodd yr haul, a fu dan gwmwl cynt, a ffaglodd tân anferth ar yr allor er rhyfeddod i bawb.
23 A thra oedd yr aberth yn llosgi'n ulw, aeth yr offeiriaid i weddi, yr offeiriaid ynghyd â phawb arall, gyda Jonathan yn arwain a'r gweddill yn ateb gan ddilyn Nehemeia.
24 A dyma ffurf y weddi: ‘O Arglwydd, Arglwydd Dduw, Creawdwr pob peth, yr hwn sydd yn ofnadwy a nerthol, yn gyfiawn a thrugarog, tydi yw'r unig frenin, yr unig un tirion,
25 yr unig ddarparwr; tydi'n unig sy'n gyfiawn a hollalluog a thragwyddol; tydi sy'n achub Israel rhag pob perygl; tydi a wnaeth ein hynafiad yn etholedig a'u cysegru.
26 Derbyn yr aberth hwn dros dy holl bobl Israel, gwarchod yr eiddot dy hun a chysegra hwy'n llwyr.