1 Dechreuodd Jwdas, a elwid hefyd Macabeus, a'i ddilynwyr lithro'n ddirgel i mewn i'r pentrefi a galw ar eu perthnasau i ymuno â hwy; a thrwy listio'r rheini oedd wedi parhau'n ffyddlon i Iddewiaeth, casglasant ynghyd tua chwe mil o wŷr.
2 Galwasant ar yr Arglwydd ar iddo edrych ar ei bobl yn eu gorthrwm dan draed pawb, a thosturio wrth y deml yn ei halogiad gan yr annuwiol;
3 ar iddo drugarhau wrth y ddinas yr oedd ei dinistr ar fedr ei lefelu i'r llawr, a gwrando ar y gwaed oedd yn galw arno'n daer;
4 ac ar iddo hefyd gofio'r modd y lladdwyd y plant diniwed yn groes i'r gyfraith, a'r cablu a fu ar ei enw ef ei hun, a dangos ei atgasedd o'r fath ddrygioni.
5 Unwaith y cafodd Macabeus fyddin o'i amgylch, ni allai'r Cenhedloedd ei wrthsefyll mwyach, am fod digofaint yr Arglwydd wedi troi'n drugaredd.
6 Ymosodai'n ddirybudd ar drefi a phentrefi a'u rhoi ar dân, a thrwy gymryd meddiant o'r safleoedd gorau gyrrodd laweroedd o'i elynion ar ffo.
7 Manteisiai'n arbennig ar gymorth oriau'r nos ar gyfer cyrchoedd o'r fath. Ac yr oedd sôn am ei wrhydri ym mhobman.
8 Pan sylweddolodd Philip fod y gwron yn cyrraedd ei nod fesul tipyn, a bod ei achos yn ffynnu fwyfwy oherwydd ei lwyddiannau, ysgrifennodd at Ptolemeus, llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, gan ofyn iddo ddod i gynorthwyo achos y brenin.
9 Heb oedi dim dewisodd yntau Nicanor fab Patroclus, un o brif Gyfeillion y brenin, a'i anfon allan, yn ben ar fyddin o ugain mil o leiaf o ddynion o bob hil, i ddifa holl genedl yr Iddewon; a chydag ef fe benododd Gorgias, cadfridog a chanddo brofiad helaeth ar faes y gad.
10 A phenderfynodd Nicanor godi'r cyfan o dreth y brenin i'r Rhufeiniaid, swm o ddwy fil o dalentau, trwy werthu carcharorion Iddewig.
11 Anfonodd air ar ei union i drefi'r arfordir i'w gwahodd i werthiant o gaethweision Iddewig, gan addo'u trosglwyddo fesul naw deg y dalent. Ni ddisgwyliai'r gosb yr oedd yr Hollalluog am ei hanfon ar ei warthaf.
12 Daeth y newydd at Jwdas fod Nicanor yn dynesu, a rhoes yntau wybod i'w ddilynwyr fod byddin y gelyn gerllaw.
13 O ganlyniad ymwasgarodd y llyfrgwn a'r rhai heb ffydd yng nghyfiawnder Duw, a ffoi o'r fan.
14 Ond gwerthodd y lleill bopeth oedd ganddynt yn weddill, gan weddïo ag un llais ar yr Arglwydd ar iddo'u hachub rhag y Nicanor annuwiol hwn, a oedd wedi eu gwerthu cyn y frwydr;
15 ac ar iddo wneud hynny, os nad er eu mwyn hwy eu hunain, yna er mwyn y cyfamodau a wnaethai â'u hynafiaid, ac er mwyn ei enw sanctaidd a mawreddog, yr enw a roesai arnynt.
16 Casglodd Macabeus ei wŷr ynghyd, chwe mil ohonynt, a'u hannog i beidio â chymryd eu hysigo gan arswyd o'r gelyn, nac ofni'r llu mawr o'r Cenhedloedd oedd yn ymosod arnynt yn anghyfiawn, ond i ymladd yn deilwng o'u tras,
17 gan gadw o flaen eu llygaid y sarhad anghyfreithlon a ddygwyd gan y gelyn ar y deml sanctaidd, y trais gwatwarus a fu ar y ddinas, ac ar ben hynny yr ymdrechion i ddileu eu harferion traddodiadol.
18 “Y maent hwy,” meddai, “yn ymddiried mewn grym arfau ynghyd â gweithredoedd trahaus, a ninnau yn y Duw Hollalluog, a all fwrw i lawr ag un amnaid y rhai sy'n ymosod arnom, ac yn wir yr holl fyd.”
19 Aeth yn ei flaen i sôn wrthynt am y cymorth a gawsent yn amser eu hynafiaid: am hwnnw yn amser Senacherib, pan laddwyd cant a phedwar ugain a phump o filoedd;
20 ac am y frwydr a fu ym Mabilonia yn erbyn y Galatiaid, pryd y daeth cyfanswm o wyth mil i'r gad ynghyd â phedair mil o Facedoniaid. Fe'u cafodd y Macedoniaid eu hunain mewn anawsterau, ond fe laddodd yr wyth mil, trwy'r cymorth a ddaeth iddynt o'r nef, gant ac ugain o filoedd, ac ennill ysbail sylweddol.
21 Wedi iddo'u calonogi â'r geiriau hyn a'u gwneud yn barod i farw dros eu cyfreithiau a'u gwlad, rhannodd ei fyddin yn bedair adran.
22 Hefyd penododd ei frodyr, Simon, Joseff a Jonathan, i arwain adrannau, gyda mil a hanner o wŷr dan orchymyn pob un,
23 ac Eleasar hefyd. Wedi darllen y llyfr sanctaidd a rhoi'r arwyddair “Duw yw'n cymorth”, fe'i gosododd ei hun ar flaen y gatrawd gyntaf ac ymosod ar Nicanor.
24 A'r Hollalluog yn ymladd o'u plaid, lladdasant dros naw mil o'r gelyn a chlwyfo ac anafu'r rhan fwyaf o fyddin Nicanor, a'u gorfodi oll i ffoi.
25 Cymerasant arian y bobl oedd wedi dod i'w prynu'n gaethweision; ac wedi eu hymlid gryn bellter rhoesant y gorau iddi am ei bod yn gyfyng arnynt o ran amser;
26 oherwydd y dydd cyn y Saboth oedd hi, ac felly nid oeddent am barhau i'w herlid.
27 Wedi casglu arfau'r gelyn ynghyd ac ysbeilio'u meirw, aethant ati i ddathlu'r Saboth, gan fendithio'r Arglwydd yn helaeth a diolch iddo am eu cadw hyd at y dydd hwnnw, a bennwyd ganddo yn ddechreuad ei dosturi tuag atynt.
28 Wedi'r Saboth, rhanasant beth o'r ysbail i'r rheini oedd wedi cael eu cam-drin, ac i'r gweddwon a'r plant amddifad, a'r gweddill iddynt hwy eu hunain a'u plant.
29 Ar ôl gwneud hynny, ymunodd pawb i ymbil ar yr Arglwydd trugarog, gan ofyn iddo ymgymodi'n llwyr â'i weision.
30 Yna aethant i'r afael â byddinoedd Timotheus a Bacchides. Lladdasant fwy nag ugain mil ohonynt ac ennill meddiant llwyr ar rai caerau uchel. Yr oedd yr anrhaith yn helaeth, a rhanasant ef yn gyfartal rhyngddynt hwy eu hunain, y rheini oedd wedi cael eu cam-drin, y plant amddifad a'r gweddwon, a'r hynafgwyr hefyd.
31 Casglasant ynghyd yn ofalus arfau'r gelyn, a'u storio oll mewn mannau cyfleus; cludasant weddill yr ysbail i Jerwsalem.
32 Lladdasant brif swyddog byddin Timotheus, dyn annuwiol iawn a oedd wedi peri llawer o drallod i'r Iddewon.
33 Wrth ddathlu'r fuddugoliaeth yn ninas eu hynafiaid llosgasant yn fyw y dynion oedd wedi rhoi'r pyrth sanctaidd ar dân, ac yn eu plith Calisthenes, a oedd wedi ffoi am loches i ryw dŷ bychan; cafodd hwnnw'r tâl a haeddai ei annuwioldeb.
34 A chafodd Nicanor, a drwythwyd mewn pechod ac a ddaeth â'r mil o fasnachwyr i brynu'r Iddewon yn gaethweision,
35 ei ddarostwng trwy gymorth yr Arglwydd gan y rhai oedd yn llai na neb yn ei olwg ef. Wedi tynnu ei wisg swyddogol oddi amdano fe ymlwybrodd trwy'r canolbarth allan o olwg pawb, fel caethwas ar ffo, nes cyrraedd Antiochia; ac yn hynny bu'n eithriadol o ffodus, o gofio i'w fyddin gael ei dinistrio.
36 Yr oedd wedi addo talu'r dreth ddyledus i'r Rhufeiniaid trwy wneud trigolion Jerwsalem yn garcharorion rhyfel, ond cyhoeddi i'r byd a wnaeth fod gan yr Iddewon noddwr i ymladd o'u plaid, a'u bod am y rheswm hwn yn anorchfygol, am eu bod yn dilyn y cyfreithiau a osododd ef arnynt.