2 Macabeaid 7 BCND

Mam a'i Meibion yn Marw dros eu Ffydd

1 Digwyddodd hyn hefyd: yr oedd saith brawd wedi cael eu cymryd i'r ddalfa gyda'u mam, ac yr oedd y brenin yn ceisio'u gorfodi i fwyta'r cig moch anghyfreithlon trwy eu poenydio â chwipiau a chortynnau.

2 A llefarodd un ohonynt ar eu rhan fel hyn: “Pam yr wyt ti am ein holi a chael ateb gennym? Yr ydym yn barod i farw yn hytrach na throseddu yn erbyn cyfreithiau ein hynafiaid.”

3 Ymgynddeiriogodd y brenin, a gorchmynnodd boethi pedyll a pheiriau, a gwnaethpwyd hynny'n ddi-oed.

4 Wedyn gorchmynnodd dorri allan dafod y llefarydd, a blingo'i ben a thorri i ffwrdd ei draed a'i ddwylo o flaen llygaid y brodyr eraill a'r fam.

5 A phan oedd yn gwbl ddiymadferth ond yn dal i anadlu, gorchmynnodd y brenin ei ddwyn at y tân a'i rostio ar y badell. Wrth i'r mwg o'r badell godi ar led, yr oedd y lleill ynghyd â'u mam yn annog ei gilydd i farw'n deilwng o'u tras, gan ddweud,

6 “Y mae'r Arglwydd ein Duw yn gwylio drosom ac yn sicr yn tosturio wrthym, yn union fel y mynegodd Moses i wynebau'r bobl yn y gân sy'n tystio yn eu herbyn: ‘A bydd ef yn tosturio wrth ei weision’.”

7 Wedi ymadawiad y cyntaf yn y dull hwn, daethpwyd â'r ail ymlaen, i wneud cyff gwawd ohono. Rhwygwyd croen ei ben i ffwrdd gyda'i wallt, a gofynnwyd iddo, “A wnei di fwyta cyn inni fwrw ein llid ar dy gorff, bob un aelod ohono?”

8 Atebodd ef yn ei famiaith, “Na wnaf.” O ganlyniad dioddefodd yntau yn ei dro yr un artaith â'r cyntaf.

9 Ac â'i anadl olaf meddai, “Yr wyt ti, y dihiryn, yn ein rhyddhau o'r bywyd presennol hwn, ond bydd Brenin y cyfanfyd yn ein hatgyfodi i fywyd newydd tragwyddol am inni farw dros ei gyfreithiau ef.”

10 Ar ôl hwn, aethpwyd ati i gam-drin y trydydd. Ar eu cais estynnodd ei dafod ar unwaith, a dal ei ddwylo o'i flaen yn eofn,

11 gan lefaru geiriau teilwng o'i dras: “Gan Dduw'r nef y cefais i'r rhain, ac er mwyn ei gyfreithiau ef yr wyf yn eu dibrisio, a chanddo ef y disgwyliaf eu derbyn yn ôl.”

12 Syfrdanwyd y brenin a'i gymdeithion gan ysbryd y llanc a'i ddifaterwch ynglŷn â'r poenau.

13 Wedi i hwnnw ymadael â'r fuchedd hon, fe boenydiwyd ac arteithiwyd y pedwerydd yn yr un modd.

14 Pan ddaeth yn agos at y diwedd meddai, “Nid oes dim rhagorach nag ymadael â'r fuchedd hon trwy ddwylo dynol, a disgwyl am ein hatgyfodi gan Dduw, gan obeithio yn ei addewidion; ond i ti ni bydd atgyfodiad i fywyd.”

15 Yn nesaf daethpwyd â'r pumed ymlaen a'i boenydio.

16 Edrychodd ef ar y brenin ac meddai, “Am fod gennyt awdurdod ymhlith dynion yr wyt yn gwneud fel y mynni, er mai meidrolyn wyt. Ond paid â meddwl fod Duw wedi gadael ein cenedl yn amddifad.

17 Dal di ati, a chei weld mawredd ei rym yn yr arteithiau a ddaw arnat ti ac ar dy ddisgynyddion.”

18 Ar ôl hwn daethpwyd â'r chweched ymlaen, a phan oedd ar farw meddai, “Paid â gwneud camsyniad ofer: nyni ein hunain, a'n pechodau yn erbyn ein Duw, yw achos y dioddef hwn a ddaeth arnom yn ei holl arswyd;

19 a phaid â meddwl y cei di fynd heb dy gosbi am dy gais i ymladd yn erbyn Duw.”

20 Ond tra rhyfeddol a theilwng o goffadwriaeth fendigedig oedd y fam. Er iddi weld colli ei saith mab yn ystod un diwrnod, fe ddaliodd y cwbl ag ysbryd dewr am fod ei gobaith yn yr Arglwydd.

21 Bu wrthi'n calonogi pob un ohonynt yn eu mamiaith, ac â phenderfyniad diysgog cwbl deilwng o'i thras, ac â'i meddwl benyw wedi ei gyffroi gan wrhydri tanbaid, dywedai wrthynt,

22 “Ni wn i sut y daethoch i'm croth; nid myfi a roes anadl ac einioes i chwi, ac nid myfi a osododd yn eu trefn elfennau corff neb ohonoch.

23 Er hynny, Creawdwr y byd, Lluniwr genedigaeth dynion a Dyfeisiwr dechrau pob peth, a rydd yn ôl i chwi yn ei drugaredd eich anadl a'ch einioes, am eich bod yn awr yn eich dibrisio'ch hunain er mwyn ei gyfreithiau ef.”

24 Yr oedd Antiochus yn tybio ei fod yn cael ei fychanu, ac yn amau cerydd yn ei llais. Gan fod y mab ieuengaf yn dal yn fyw, ceisiodd nid yn unig gael perswâd arno â geiriau, ond ymrwymodd â llw y gwnâi ef yn gyfoethog ac yn dda ei fyd unwaith y cefnai ar ffyrdd ei hynafiaid; fe'i gwnâi'n Gyfaill i'r brenin, ac ymddiried swyddi pwysig iddo.

25 Ond gan na chymerai'r dyn ifanc ddim sylw o gwbl ohono, galwodd y brenin y fam ato a'i chymell i gynghori'r llanc i achub ei fywyd.

26 Wedi hir gymell ganddo, cydsyniodd hi i berswadio'i mab;

27 pwysodd tuag ato, ac mewn dirmyg llwyr o'r teyrn creulon fe ddywedodd yn eu mamiaith, “Fy mab, tosturia wrthyf fi dy fam, a'th gariodd yn y groth am naw mis, a rhoi'r fron iti am dair blynedd, a'th fagu a'th ddwyn i'th oedran presennol, a'th gynnal.

28 Yr wyf yn deisyf arnat, fy mhlentyn, edrych ar y nef a'r ddaear a gwêl bopeth sydd ynddynt, ac ystyria mai o ddim y gwnaeth Duw hwy, a bod yr hil ddynol yn dod i fodolaeth yn yr un modd.

29 Paid ag ofni'r dienyddiwr hwn, ond bydd deilwng o'th frodyr. Derbyn dy farwolaeth, er mwyn i mi dy gael yn ôl gyda'th frodyr yn nydd trugaredd.”

30 Ond cyn iddi orffen siarad, meddai'r dyn ifanc, “Am beth yr ydych yn aros? Nid wyf yn ymddarostwng i orchymyn y brenin; yr wyf yn ymostwng yn hytrach i orchymyn y gyfraith a roddwyd i'n hynafiaid trwy Moses.

31 Ond tydi, sydd wedi dyfeisio pob math o ddrygioni yn erbyn yr Iddewon, nid oes dianc i ti o ddwylo Duw.

32 Oherwydd o achos ein pechodau ein hunain yr ydym ni'n dioddef.

33 Ac os yw ein Harglwydd, y Duw byw, wedi digio am ysbaid er mwyn ein ceryddu a'n disgyblu, fe fydd yn ymgymodi eto â'i weision ei hun.

34 Ond tydi, y creadur aflan a'r ffieiddiaf o fodau dynol, paid â'th ddyrchafu dy hun yn ofer â'th obeithion ansylweddol rhyfygus, wrth godi dy law yn erbyn gweision nef.

35 Nid wyt eto wedi dianc o gyrraedd barnedigaeth yr Hollalluog, Gwyliedydd pob peth.

36 Y mae ein brodyr yn awr, ar ôl dioddef ysbaid o boen er mwyn yfed o ddyfroedd y bywyd tragwyddol, wedi cwympo, dan gyfamod Duw; ond tydi, trwy farn Duw fe gei'r gosb yr wyt yn ei haeddu am dy draha.

37 Amdanaf fy hun, fel fy mrodyr yr wyf yn ildio fy nghorff a'm bywyd er mwyn cyfreithiau'n hynafiaid, ac yn galw ar Dduw am iddo dosturio'n fuan wrth ei genedl, ac am i ti gyfaddef dan artaith fflangellau mai ef yn unig sydd Dduw;

38 a bydded i lid yr Hollalluog, a ddaeth ar ein holl genedl yn unol â'i haeddiant, ddod i ben gyda mi a'm brodyr.”

39 Ymgynddeiriogodd y brenin, wedi ei glwyfo i'r byw gan y sen, a gwnaeth greulonach bethau iddo ef nag i'r lleill.

40 Ac yn ddihalog yr ymadawodd y brawd hwn hefyd â'r fuchedd hon, â'i hyder yn llwyr yn yr Arglwydd.

41 Yn olaf, gan ddilyn ei meibion, bu farw'r fam.

42 Boed hyn yn ddisgrifiad digonol o'r hyn a ddigwyddodd ynghylch bwyta'r cig aberthol, ac o enbydrwydd y trais.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15