2 Macabeaid 5 BCND

Jason yn Ymosod ar Jerwsalem

1 Tua'r amser hwn paratôdd Antiochus ar gyfer ei ail ymosodiad ar yr Aifft.

2 Am yn agos i ddeugain diwrnod fe welwyd gweledigaethau uwchben y ddinas gyfan: marchogion mewn dillad o frodwaith aur yn carlamu trwy'r awyr, catrodau o waywffonwyr arfog, cleddyfau'n cael eu tynnu,

3 cwmnïoedd o filwyr meirch yn eu rhengoedd, dwy fyddin yn ymosod a gwrthymosod ar ei gilydd, yn ysgwyd tarianau, yn pentyrru gwaywffyn hir, yn gollwng saethau, a'u haddurniadau aur a'u llurigau gwahanol yn fflachio.

4 O ganlyniad, yr oedd pawb yn gweddïo am i'r weledigaeth fod yn argoel o rywbeth da.

5 A phan fu sôn, ar gam, fod Antiochus wedi ymadael â'r fuchedd hon, cymerodd Jason dros fil o wŷr ac ymosod yn ddirybudd ar y ddinas; ac o weld yr amddiffynwyr wedi eu hymlid oddi ar y muriau, a'r ddinas o'r diwedd ar gael ei llwyr feddiannu, fe ffodd Menelaus i'r gaer.

6 Ond dal ymlaen â'i laddfa ddidrugaredd ar ei gyd-ddinasyddion a wnaeth Jason, heb ystyried nad oes aflwydd tebyg i lwydd rhywun ar draul ei bobl ei hun; yn ei olwg ef, buddugoliaeth ar elynion, nid ar ei genedl ei hun, yr oedd yn ei dathlu.

7 Ond methodd ddod yn ben; a diwedd ei gynllwyn fu gwarth, a ffoi'n alltud unwaith eto i dir yr Amoniaid.

8 Yn wir, ymhen amser, daeth tro trychinebus ar ei fyd. Wedi ei gyhuddo gan Aretas, unben yr Arabiaid, bu'n ffoi o ddinas i ddinas, yn cael ei erlid gan bawb, yn atgas ganddynt fel gwrthgiliwr oddi wrth y cyfreithiau, ac yn ffiaidd ganddynt fel dienyddiwr ei wlad a'i gyd-ddinasyddion, nes o'r diwedd iddo lanio yn yr Aifft.

9 Y gŵr oedd wedi gyrru llaweroedd o'u gwlad yn alltudion, yn alltud y darfu amdano yntau yng ngwlad y Lacedaemoniaid; oherwydd yr oedd wedi hwylio yno yn y gobaith y câi loches ganddynt ar gyfrif eu tras gyffredin.

10 Ac yntau wedi lluchio llaweroedd allan i orwedd heb fedd, ni chafodd na galarwr nac angladd o unrhyw fath, na gorweddfan ym meddrod ei hynafiaid.

Antiochus yn Ymosod ar Jerwsalem

11 Pan ddaeth y newydd am y digwyddiadau hyn i glust y brenin, tybiodd ef fod Jwdea'n gwrthryfela. Gan hynny, ymadawodd â'i wersyll yn yr Aifft yn gynddeiriog ei lid.

12 Cymerodd y ddinas trwy rym arfau, gan orchymyn i'w filwyr ladd yn ddiarbed bawb o fewn eu cyrraedd a tharo'n gelain bawb a geisiai ddianc i'w tai.

13 Fe aed ati i lofruddio'r ifanc a'r hen, difa glaslanciau a gwragedd a phlant, a gwneud lladdfa o enethod dibriod a babanod.

14 Yn ystod y tridiau cyfan collwyd pedwar ugain mil: deugain mil yn y drin, a gwerthwyd i gaethiwed o leiaf gynifer ag a lofruddiwyd.

15 Ond ni fodlonodd y brenin ar hynny. Rhyfygodd fynd i mewn i'r deml sancteiddiaf yn yr holl fyd gyda Menelaus yn ei dywys, dyn oedd wedi troi'n fradwr i'r cyfreithiau ac i'w wlad.

16 Gosododd ei ddwylo halogedig ar y llestri cysegredig, ac â'r dwylo aflan hynny ysgubodd ynghyd y rhoddion a adawyd gan frenhinoedd eraill er cynnydd gogoniant y deml a'i bri.

17 Yn ymchwydd ei hunan-dyb diderfyn, ni ddeallai Antiochus mai pechodau trigolion y ddinas oedd wedi digio'r Arglwydd dros dro, ac mai hyn a barodd iddo anwybyddu'r deml.

18 Oni bai am eu hymddygiad tra phechadurus, buasai'r creadur hwn hefyd wedi ei fflangellu ar ei ddyfodiad, a'i gynllun rhyfygus wedi ei ddymchwel, yn union fel y digwyddodd i Heliodorus, y dyn a anfonwyd gan y Brenin Selewcus i wneud arolwg o'r drysorfa.

19 Ond nid dewis y genedl er mwyn y deml a wnaeth yr Arglwydd, ond yn hytrach y deml er mwyn y genedl.

20 Am hynny cafodd y deml ei hun ei rhan o aflwydd y genedl, ac yn ddiweddarach fe gyfranogodd o'i llwydd; wedi ei gadael yn amddifad yn nydd digofaint yr Hollalluog, fe'i hadferwyd drachefn â phob gogoniant yn nydd cymod yr Arglwydd mawr.

Ymosodiad Pellach ar Jerwsalem

21 Felly, wedi iddo gymryd deunaw can talent o'r deml, dychwelodd Antiochus ar frys i Antiochia, gan fwriadu yn ymchwydd trahaus ei galon wneud y tir yn fôr i hwylio arno a'r môr yn dir i gerdded arno.

22 Gadawodd ar ei ôl lywodraethwyr i ddrygu'r genedl: Philip yn Jerwsalem, Phrygiad o ran cenedl, ac o ran ei gymeriad barbariad gwaeth na'r un a'i penododd;

23 ac Andronicus yn Garisim. Heblaw'r ddau hyn gadawodd Menelaus, y mwyaf haerllug ohonynt tuag at y dinasyddion. Ac oherwydd ei agwedd elyniaethus tuag at y dinasyddion Iddewig,

24 anfonodd Antiochus Apolonius, cadfridog y Mysiaid, gyda byddin o ddwy fil ar hugain, a gorchymyn iddo ladd pob gŵr oedd yn ei lawn oed, a gwerthu'r gwragedd a'r bechgyn yn gaethweision.

25 Pan gyrhaeddodd hwn Jerwsalem cymerodd arno fod yn ddyn heddychlon. Disgwyliodd tan ddydd sanctaidd y Saboth. Pan gafodd fod yr Iddewon yn gorffwys o'u gwaith, gorchymynnodd i'w filwyr orymdeithio'n arfog.

26 Gwnaeth laddfa o bawb oedd wedi dod allan i wylio, ac yna rhuthrodd i mewn i'r ddinas gyda'i filwyr, a gadael llaweroedd yn gelain ar lawr.

27 Ymgiliodd Jwdas Macabeus gyda rhyw naw arall i'r anialwch, a byw fel anifeiliaid gwyllt yn y mynyddoedd gyda'i ddilynwyr. Ac ar hyd yr amser ymgadwent rhag bwyta dim ond llysiau, rhag ofn halogiad.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15