20 Ond aeth gwŷr Simon yn ariangar, ac ildio i berswâd arian rhai o'r bobl yn yr amddiffynfeydd; am saith deng mil o ddrachmâu fe adawsant i rai ddianc.
21 Pan ddaeth adroddiad am y digwyddiad at Macabeus, fe gasglodd swyddogion y fyddin ynghyd, a chyhuddo'r dynion hyn o werthu eu brodyr am arian trwy ollwng eu gelynion yn rhydd i ymladd yn eu herbyn.
22 Ac felly dienyddiodd hwy am eu brad, ac yna goresgyn ar ei union y ddwy amddiffynfa.
23 Yn y frwydr bu llwyddiant ar bopeth oedd dan ei reolaeth, ac fe laddodd yn y ddwy amddiffynfa dros ugain mil o ddynion.
24 Er i Timotheus gael ei drechu o'r blaen gan yr Iddewon, fe gasglodd ynghyd lu enfawr o filwyr o wledydd estron, a nifer mawr o feirch o Asia. Ymosododd gyda'r bwriad o feddiannu Jwdea trwy rym arfau.
25 Wrth iddo nesáu, taenellodd Macabeus a'i wŷr bridd ar eu pennau a chlymu sachlieiniau am eu llwynau i ymbil ar Dduw.
26 Fe'u taflasant eu hunain ar eu hyd ar y llwyfan gerbron yr allor, a gofyn i Dduw o'i drugaredd tuag atynt “fod yn elyn i'w gelynion ac yn wrthwynebwr i'w gwrthwynebwyr”, fel y traethir yn y gyfraith.