20 Ynglŷn â'r materion hyn a'r manylion pellach: yr wyf wedi gorchymyn i'r dynion hyn a'm cynrychiolwyr innau eu trafod gyda chwi.
21 Ffarwel. Y pedwerydd ar hugain o fis Dioscorus yn y flwyddyn 148.”
22 Dyma gynnwys llythyr y brenin:“Y Brenin Antiochus at Lysias ei frawd, cyfarchion.
23 Gan fod ein tad wedi mynd i blith y duwiau, ein dymuniad yw i ddeiliaid ein teyrnas gael dilyn eu dibenion eu hunain heb unrhyw darfu arnynt.
24 Yr ydym wedi clywed nad yw'r Iddewon yn dymuno newid i'r ffyrdd Helenistaidd o fyw fel y mynnai fy nhad, ond ei bod yn well ganddynt eu ffyrdd eu hunain, a'u bod yn gofyn caniatâd i ddilyn eu cyfreithiau eu hunain.
25 Gan hynny, yn unol â'n dewis nad oes tarfu i fod ar y genedl hon mwy na'r un arall, ein dyfarniad yw bod eu teml i gael ei hadfer iddynt a'u bod i fyw yn ôl arferion eu hynafiaid.
26 Bydd gystal, felly, ag anfon fy nyfarniad atynt a rhoi dy law dde iddynt, fel o wybod beth yw fy mwriad y gallant godi eu calonnau a byw'n ddedwydd yn eu gofal am eu dibenion eu hunain.”