30 Gan hynny, bydd amnest i unrhyw un fydd wedi dychwelyd erbyn y degfed ar hugain o fis Xanthicus.
31 Y mae caniatâd i'r Iddewon arfer eu bwydydd a'u cyfreithiau eu hunain megis cynt, ac nid aflonyddir ar neb ohonynt mewn unrhyw fodd o achos dim a wnaethpwyd mewn anwybodaeth.
32 Yr wyf hefyd yn anfon Menelaus i'ch calonogi.
33 Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus, yn y flwyddyn 148.”
34 Anfonodd y Rhufeiniaid hefyd y llythyr canlynol atynt:“Cwintus Memius a Titus Manius, llysgenhadon y Rhufeiniaid, at bobl yr Iddewon, cyfarchion.
35 Ynglŷn â'r cytundebau â chwi a wnaethpwyd gan Lysias, câr y brenin, yr ydym ninnau hefyd yn eu cymeradwyo.
36 Ond am y materion y barnodd ef fod yn rhaid eu cyfeirio at y brenin, ystyriwch hwy'n ofalus ac yna anfonwch rywun atom yn ddi-oed, fel y gallwn eu cyflwyno mewn modd a fydd yn fuddiol i chwi; oherwydd yr ydym yn cychwyn am Antiochia.