3 Ymunodd Menelaus hefyd â hwy, ac aeth ati yn dra ffuantus i gymell Antiochus i fynd yn ei flaen; ond yr oedd ei fryd nid ar achub ei wlad ond ar gael ei gynnal yn ei swydd.
4 Ond cyffrôdd Brenin y brenhinoedd ddicter Antiochus yn erbyn y gŵr pechadurus hwnnw, ac wedi i Lysias ddod â thystiolaeth i ddangos mai ef oedd achos yr holl drafferthion, gorchmynnodd y brenin ei gymryd i Berea a'i ddienyddio yn null arferol y dref honno.
5 Y mae yno dŵr tua thri medr ar hugain o uchder, yn llawn lludw; ar y tŵr hwn yr oedd dyfais ar lun cylch yn disgyn ar ei ben o bob tu i mewn i'r lludw.
6 Yno y maent yn codi ac yn gwthio i ddinistr unrhyw un a gafwyd yn euog o ysbeilio temlau neu o ryw ddrwgweithred ysgeler arall.
7 Dyna'r dynged a oddiweddodd Menelaus, torrwr y gyfraith; bu farw ond ni chafodd fedd,
8 a hynny'n hollol gyfiawn; oherwydd am iddo bechu llawer ynghylch yr allor y mae ei thân a hyd yn oed ei lludw yn ddihalog, mewn lludw y daeth i'w dranc ei hun.
9 Aeth y brenin yn ei flaen yn llawn traha barbaraidd, gan fwriadu dangos i'r Iddewon bethau gwaeth na dim a ddigwyddodd yn amser ei dad.