16 Ar orchymyn eu harweinydd cychwynasant oddi yno ar eu hunion a tharo ar y gelyn ger pentref Adasa.
17 Simon, brawd Jwdas, oedd yr un a aeth i'r afael â Nicanor, ond o achos dyfodiad disymwth y gelyn fe gollodd dir o ryw gymaint;
18 er hynny, pan glywodd Nicanor am wrhydri Jwdas a'i wŷr, ac am eu dewrder wrth frwydro dros eu gwlad, dechreuodd ofni nad tywallt gwaed oedd y ffordd i ddwyn yr ymrafael i ben.
19 Gan hynny, anfonodd Posidonius, Theodotus a Matathias i roi a derbyn deheulaw mewn heddwch.
20 Fe astudiwyd eu cynigion yn fanwl, ac o'u hysbysu i'r bobl gan eu harweinydd a chael pleidlais unfrydol, derbyniwyd y cytundeb.
21 Yna pennwyd dydd i'r arweinwyr gyfarfod ar wahân; daeth cerbyd yn ei flaen o'r naill ochr ac o'r llall, a gosodwyd seddau.
22 Yr oedd Jwdas wedi gosod gwŷr arfog yn barod yn y mannau manteisiol, rhag ofn rhyw ddichell sydyn gan y gelyn; ond cawsant drafodaeth bwrpasol.