20 Fe astudiwyd eu cynigion yn fanwl, ac o'u hysbysu i'r bobl gan eu harweinydd a chael pleidlais unfrydol, derbyniwyd y cytundeb.
21 Yna pennwyd dydd i'r arweinwyr gyfarfod ar wahân; daeth cerbyd yn ei flaen o'r naill ochr ac o'r llall, a gosodwyd seddau.
22 Yr oedd Jwdas wedi gosod gwŷr arfog yn barod yn y mannau manteisiol, rhag ofn rhyw ddichell sydyn gan y gelyn; ond cawsant drafodaeth bwrpasol.
23 Bu Nicanor yn aros yn Jerwsalem, ac ni wnaeth ddim o'i le; yn wir, fe ollyngodd ymaith yr heidiau o bobl oedd wedi ymgynnull ato.
24 Cadwodd Jwdas wrth ei ochr yr holl amser; yr oedd wedi cymryd at y dyn.
25 Anogodd ef i briodi ac i fagu plant; priododd yntau, cafodd lonyddwch a phrofi bywyd cyffredin.
26 Pan welodd Alcimus y cyfeillgarwch oedd rhyngddynt, cymerodd gopi o'r cytundeb a wnaethpwyd, a mynd at Demetrius a haeru bod bwriadau Nicanor yn groes i rai'r llywodraeth; oherwydd yr oedd wedi penodi Jwdas yn ddarpar-Gyfaill, ac yntau'n gynllwyniwr yn erbyn y deyrnas.