30 Ond sylwodd Macabeus fod Nicanor yn fwy garw yn ei ymwneud ag ef a bod ei agwedd arferol yn llai cwrtais, a chan farnu nad oedd y garwedd hwn yn argoeli'n dda, casglodd nifer helaeth o'i ddilynwyr ynghyd ac ymguddio o olwg Nicanor.
31 Pan ddarganfu hwnnw fod Jwdas wedi cael y blaen yn deg arno, aeth i'r deml fawr a sanctaidd ar yr awr pan oedd yr offeiriaid yn offrymu'r aberthau arferol, a gorchymyn iddynt drosglwyddo'r dyn iddo.
32 Pan aethant hwy ar eu llw na wyddent lle'n y byd yr oedd y dyn a geisiai,
33 estynnodd ef ei law dde tua'r deml a thyngodd fel hyn: “Os na throsglwyddwch Jwdas imi yn garcharor, fe dynnaf i'r llawr y cysegr yma o'r eiddo eich Duw, dymchwelaf yr allor a chodaf yn y man hwn deml i Dionysus a fydd yn tynnu llygaid pawb.”
34 Ac â'r geiriau hynny aeth ymaith; ond estynnodd yr offeiriaid eu dwylo i'r nef a galw â'r geiriau hyn ar yr Un sydd bob amser yn brwydro dros ein cenedl:
35 “Ti Arglwydd, nad wyt yn amddifad o ddim, gwelaist yn dda osod teml dy breswylfod yn ein plith ni;
36 yr awr hon hefyd, Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw'n ddihalog am byth y tŷ hwn a burwyd mor ddiweddar.”