22 A galwodd arno â'r geiriau hyn: “Tydi Benarglwydd, anfonaist dy angel at Heseceia brenin Jwda, a lladdodd ef hyd at gant wyth deg a phump o filoedd o lu Senacherib.
23 Yr awr hon hefyd, Benarglwydd y nefoedd, anfon angel da o'n blaenau i daenu arswyd a braw;
24 bydded i'th fraich nerthol daro i lawr y cablwyr hyn sy'n ymosod ar dy bobl sanctaidd.” Ac â'r geiriau hynny fe dawodd.
25 Dechreuodd Nicanor a'i fyddin symud yn eu blaenau gyda sain utgyrn a chaneuon rhyfel.
26 Aeth Jwdas a'i fyddin i'r afael â'r gelyn dan alw ar Dduw a gweddïo.
27 Â'u dwylo yr oeddent yn ymladd, ond yn eu calonnau yr oeddent yn gweddïo ar Dduw; gadawsant yn gelanedd gymaint â phymtheng mil ar hugain, a mawr oedd eu llawenydd o weld Duw yn ei amlygu ei hun fel hyn.
28 Wedi'r brwydro, wrth iddynt ymadael yn eu llawenydd, daethant ar draws Nicanor, yn gorwedd yn farw a'i holl arfwisg amdano.