35 Clymodd ben Nicanor wrth fur y gaer, yn arwydd eglur a gweladwy gan bawb o gymorth yr Arglwydd.
36 Trwy bleidlais gyhoeddus penderfynwyd yn unfrydol beidio ar unrhyw gyfrif â gadael i'r dydd hwn fod heb ei goffâd, ond cadw gŵyl ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis—Adar yn yr iaith Aramaeg—un dydd cyn Gŵyl Mordecai.
37 Dyna, gan hynny, gwrs helynt Nicanor, a chan fod y ddinas er y dyddiau hynny wedi bod ym meddiant yr Iddewon, fe derfynaf finnau fy llyfr yma.
38 Os cyfansoddwyd ef yn goeth ac yn gymen, dyna oedd fy nymuniad i; ond os yn wael ac yn sathredig, dyna eithaf fy ngallu.
39 Oherwydd fel y mae yfed gwin ar ei ben ei hun yn atgas, ac yfed dŵr yr un modd hefyd, tra mae gwin yn gymysg â dŵr yn felys ac yn rhoi mwynhad hyfryd, felly hefyd y mae amrywiaeth grefftus yn yr ymadrodd yn hyfrydwch i glust y darllenydd. Ac ar hynny fe ddibennaf.