14 Yn yr un modd y mae Jwdas wedi casglu ynghyd yr holl lyfrau a wasgarwyd o achos y rhyfel a ddaeth arnom, ac y maent yn ein meddiant ni;
15 felly, os oes arnoch eu hangen, anfonwch rywrai i'w cyrchu.
16 “Yr ydym yn ysgrifennu atoch am ein bod yn bwriadu dathlu Gŵyl y Buredigaeth; da o beth, gan hynny, fydd i chwi gadw ei dyddiau.
17 Y Duw a achubodd ei holl bobl ac a roes y frenhiniaeth a'r offeiriadaeth a'r cysegriad yn etifeddiaeth i bawb,
18 fel yr addawodd trwy'r gyfraith, hwn yw'r Duw yr ydym yn gobeithio y bydd iddo drugarhau wrthym yn fuan, a'n casglu ynghyd o bob man dan y nef i'w deml sanctaidd; oherwydd fe'n hachubodd rhag drygau enbyd, ac fe burodd y deml.”
19 Dyma weithredoedd Jwdas Macabeus a'i frodyr: puro'r deml fawr a chysegru'r allor;
20 y rhyfeloedd a ddilynodd yn erbyn Antiochus Epiffanes a'i fab Ewpator;