3 ac â geiriau eraill cyffelyb fe'u hanogodd i beidio â throi'r gyfraith allan o'u calonnau.
4 Yr oedd y ddogfen hefyd yn adrodd bod y proffwyd o achos oracl dwyfol wedi gorchymyn fod y babell a'r arch i'w ddilyn ef; a'i fod wedi mynd allan i'r mynydd y safai Moses ar ei ben pan welodd yr etifeddiaeth a addawyd gan Dduw.
5 Wedi cyrraedd yno darganfu Jeremeia ogof gyfannedd, a dygodd y babell a'r arch ac allor yr arogldarth i mewn iddi a chau'r fynedfa.
6 Daeth rhai o'i gymdeithion yno ar ei ôl i nodi'r ffordd, ond ni lwyddasant i'w darganfod.
7 Pan ddaeth Jeremeia i wybod am hyn, fe'u ceryddodd, gan ddweud, ‘Anhysbys fydd y man hyd at yr amser y cynnull Duw ei bobl ynghyd a thrugarhau wrthynt;
8 y pryd hwnnw daw'r Arglwydd â'r pethau hyn i'r golwg unwaith eto, ac fe welir gogoniant yr Arglwydd a'r cwmwl, fel yr amlygwyd ef yn amser Moses, a hefyd pan weddodd Solomon am i'r deml gael ei chysegru'n deilwng.’ ”
9 Adroddwyd hefyd i Solomon, fel un a chanddo ddoethineb, offrymu aberth i ddathlu cysegru a chwblhau'r deml.