9 Heblaw hynny, ymrwymodd, pe caniateid iddo sefydlu dan ei awdurdod ei hun gampfa ac ysgol hyfforddi llanciau, i dalu can talent a hanner yn ychwanegol ac i lunio cofrestr o Antiochiaid yn Jerwsalem.
10 Wedi i'r brenin roi ei ganiatâd, meddiannodd Jason ei swydd ac yn ddiymdroi gwnaeth i'w gydwladwyr droi i'r ffordd Helenistaidd o fyw.
11 Dirymodd y breintiau elusennol a roddwyd i'r Iddewon gan y brenhinoedd trwy waith Ioan, tad yr Ewpolemus hwnnw a aeth yn llysgennad i wneud cytundeb o gyfeillgarwch a chynghrair â'r Rhufeiniaid. Diddymodd y sefydliadau cyfreithlon a chreu arferion newydd anghyfreithlon.
12 Oherwydd gwelodd yn dda sefydlu campfa wrth droed caer y ddinas, a gwneud i'r goreuon o'r llanciau wisgo het athletwyr.
13 O achos anfadwaith diatal y ffug-archoffeiriad annuwiol Jason, cyrhaeddodd Helenistiaeth a'r cynnydd mewn arferion estron y fath bwynt
14 fel y collodd yr offeiriaid eu sêl ynglŷn â gwasanaethau'r allor; aethant yn ddirmygus o'r deml ac yn ddi-hid am yr aberthau, ac ar sain y gong rhuthrent i gymryd rhan yn ymarferion anghyfreithlon yr ysgol ymgodymu.
15 Nid oedd y breintiau traddodiadol yn ddim yn eu golwg; yr anrhydeddau Helenistaidd oedd ardderchocaf yn eu tyb hwy.