1 Ychydig wedi hynny, anfonodd y brenin henwr o Atheniad i orfodi'r Iddewon i gefnu ar gyfreithiau eu hynafiaid ac i beidio â threfnu eu bywyd yn ôl cyfreithiau Duw;
2 yr oedd i halogi'r deml yn Jerwsalem a'i henwi hi'n deml Zeus o Olympus, a honno yn Garisim yn deml Zeus Noddwr Dieithriaid, yn ôl arfer trigolion y fro.
3 Ergyd drom ac annioddefol gan bawb oedd y drwg pellach hwn.
4 Oherwydd fe lanwyd y deml ag anlladrwydd a rhialtwch cenedl-ddynion yn eu difyrru eu hunain gyda phuteiniaid ac yn cydorwedd â gwragedd oddi mewn i'r cylch sanctaidd, ac at hynny'n dwyn pethau gwaharddedig i mewn iddo.
5 Pentyrrwyd ar yr allor bethau amhur a gwaharddedig gan y cyfreithiau.
6 Ni chaniateid i neb na chadw'r Saboth na pharchu'r gwyliau traddodiadol na chymaint â chyfaddef ei fod yn Iddew.
7 Pob mis, ar ddydd dathlu geni'r brenin, yr oeddent dan orfod llym i fynd a bwyta cig yr aberth, ac ar ŵyl Dionysus fe'u gorfodid i orymdeithio ag eiddew ar eu pennau er anrhydedd i Dionysus.