14 Oherwydd yn achos y cenhedloedd eraill y mae'r Arglwydd yn disgwyl yn amyneddgar nes i'w pechodau gyrraedd eu penllanw, ac wedyn y mae'n eu cosbi; ond nid felly y barnodd yn ein hachos ni,
15 rhag iddo ddial arnom ar ôl i'n pechodau gyrraedd eu hanterth.
16 Gan hynny, nid yw byth yn troi ei drugaredd oddi wrthym, ac wrth ddisgyblu ei bobl trwy drallod nid yw'n cefnu arnynt. Ond dylai hyn o eiriau gennyf fod yn ddigon i'ch atgoffa o hynny;
17 wedi'r ychydig grwydro hwn rhaid ailgydio yn yr hanes.
18 Yr oedd Eleasar yn un o'r ysgrifenyddion blaenllaw, yn ddyn oedd eisoes wedi cyrraedd oedran mawr, ac yn hardd iawn o ran pryd a gwedd. A dyma lle'r oedd yn cael ei orfodi i agor ei geg led ei ben ac i fwyta cig moch.
19 Ond dewisach ganddo ef oedd marw'n anrhydeddus na byw'n halogedig, a dechreuodd o'i wirfodd gerdded tuag at yr ystanc
20 gan boeri'r cig allan, fel y dylai pawb wneud sy'n ddigon dewr i ymwrthod â phethau nad yw'n gyfreithlon eu bwyta, pa faint bynnag y mae dyn yn caru byw.