17 wedi'r ychydig grwydro hwn rhaid ailgydio yn yr hanes.
18 Yr oedd Eleasar yn un o'r ysgrifenyddion blaenllaw, yn ddyn oedd eisoes wedi cyrraedd oedran mawr, ac yn hardd iawn o ran pryd a gwedd. A dyma lle'r oedd yn cael ei orfodi i agor ei geg led ei ben ac i fwyta cig moch.
19 Ond dewisach ganddo ef oedd marw'n anrhydeddus na byw'n halogedig, a dechreuodd o'i wirfodd gerdded tuag at yr ystanc
20 gan boeri'r cig allan, fel y dylai pawb wneud sy'n ddigon dewr i ymwrthod â phethau nad yw'n gyfreithlon eu bwyta, pa faint bynnag y mae dyn yn caru byw.
21 Yr oedd y dynion oedd yn goruchwylio'r pryd anghyfreithlon hwn yn hen gyfarwydd ag Eleasar, ac am hynny cymerasant ef o'r neilltu a'i annog i ddarparu a pharatoi ei hun gig y byddai'n rhydd iddo ei fwyta, ac i ffugio ei fod yn bwyta cig yr aberth yn unol â gorchymyn y brenin.
22 Pe gwnâi hynny, byddai'n dianc rhag angau a manteisio ar gymwynas oedd yn ddyladwy i'w hen gyfeillgarwch â hwy.
23 Ond yr oedd ei ddewis ef yn un hardd, yn deilwng o'i oedran, o urddas ei henaint, o'r penwynni a ddaeth iddo o'i lafur nodedig, o'i fuchedd lân er ei febyd, ac yn anad dim o'r gyfraith sanctaidd a sefydlwyd gan Dduw. Yn gyson â hyn atebodd ar ei union, “Anfonwch fi i Hades.