20 gan boeri'r cig allan, fel y dylai pawb wneud sy'n ddigon dewr i ymwrthod â phethau nad yw'n gyfreithlon eu bwyta, pa faint bynnag y mae dyn yn caru byw.
21 Yr oedd y dynion oedd yn goruchwylio'r pryd anghyfreithlon hwn yn hen gyfarwydd ag Eleasar, ac am hynny cymerasant ef o'r neilltu a'i annog i ddarparu a pharatoi ei hun gig y byddai'n rhydd iddo ei fwyta, ac i ffugio ei fod yn bwyta cig yr aberth yn unol â gorchymyn y brenin.
22 Pe gwnâi hynny, byddai'n dianc rhag angau a manteisio ar gymwynas oedd yn ddyladwy i'w hen gyfeillgarwch â hwy.
23 Ond yr oedd ei ddewis ef yn un hardd, yn deilwng o'i oedran, o urddas ei henaint, o'r penwynni a ddaeth iddo o'i lafur nodedig, o'i fuchedd lân er ei febyd, ac yn anad dim o'r gyfraith sanctaidd a sefydlwyd gan Dduw. Yn gyson â hyn atebodd ar ei union, “Anfonwch fi i Hades.
24 Oherwydd nid yw ffugio yn deilwng i rywun o'n hoedran ni. Byddai llawer o'r bobl ifainc yn tybio fod Eleasar, yn ddeg a phedwar ugain oed, wedi troi at ffordd estron o fyw,
25 a chaent eu harwain ar gyfeiliorn o'm hachos i, drwy weithred a ffugiwyd gennyf fi i ennill ysbaid byr o fywyd; a'r hyn a gawn i fyddai henaint wedi ei halogi a'i lychwino.
26 Oherwydd hyd yn oed os achubaf fi fy hun am y tro rhag dialedd dynol, ni chaf ddianc byth o ddwylo'r Hollalluog, p'run ai byw ai marw fyddaf.