Lefiticus 23 BCND

Y Gwyliau Crefyddol

1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma fydd y gwyliau, sef gwyliau'r ARGLWYDD, a gyhoeddwch yn gymanfaoedd sanctaidd:

Y Saboth

3 “ ‘Ar chwe diwrnod y cewch weithio, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth o orffwys, yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith, oherwydd ple bynnag yr ydych yn byw, Saboth i'r ARGLWYDD ydyw.

Y Pasg a'r Bara Croyw

4 “ ‘Dyma wyliau'r ARGLWYDD, y cymanfaoedd sanctaidd yr ydych i'w cyhoeddi yn eu prydau.

5 Yng nghyfnos y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD,

6 ac ar y pymthegfed dydd o'r mis hwnnw bydd gŵyl y Bara Croyw i'r ARGLWYDD; am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara heb furum.

7 Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.

8 Am saith diwrnod cyflwynwch offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; ar y seithfed dydd bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.’ ”

Blaenffrwyth y Cynhaeaf

9 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, a medi ei chynhaeaf, yr ydych i ddod ag ysgub o flaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.

11 Bydd yntau'n chwifio'r ysgub o flaen yr ARGLWYDD, iddi fod yn dderbyniol drosoch; y mae'r offeiriad i'w chwifio drannoeth y Saboth.

12 Ar y diwrnod y chwifir yr ysgub yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD oen blwydd di-nam,

13 a chydag ef fwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, a hefyd ddiodoffrwm o chwarter hin o win.

14 Nid ydych i fwyta bara, grawn sych, na grawn ir cyn y diwrnod y byddwch yn dod â'ch rhodd i'ch Duw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.

Gŵyl y Cynhaeaf

15 “ ‘O drannoeth y Saboth, sef y diwrnod y daethoch ag ysgub yr offrwm cyhwfan, cyfrifwch saith wythnos lawn.

16 Cyfrifwch hanner can diwrnod hyd drannoeth y seithfed Saboth, ac yna dewch â bwydoffrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD.

17 O ble bynnag y byddwch yn byw dewch â dwy dorth, wedi eu gwneud â phumed ran o effa o beilliaid a'u pobi â lefain, yn offrwm cyhwfan o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD.

18 Cyflwynwch gyda'r bara hwn saith oen blwydd di-nam, un bustach ifanc a dau hwrdd; byddant hwy'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

19 Yna offrymwch un bwch gafr yn aberth dros bechod, a dau oen blwydd yn heddoffrwm.

20 Bydd yr offeiriad yn chwifio'r ddau oen a bara'r blaenffrwyth yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD; y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, yn eiddo'r offeiriad.

21 Ar y diwrnod hwnnw yr ydych i gyhoeddi cymanfa sanctaidd, ac i beidio â gwneud unrhyw waith arferol. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ble bynnag y byddwch yn byw.

22 “ ‘Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, paid â medi at ymylon dy faes, a phaid â lloffa dy gynhaeaf; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”

Gŵyl yr Utgyrn

23 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

24 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gael diwrnod gorffwys; bydd yn gymanfa sanctaidd, i'w dathlu â chanu utgyrn.

25 Nid ydych i wneud unrhyw waith arferol, ond cyflwynwch aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.’ ”

Dydd y Cymod

26 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

27 “Yn wir, ar y degfed dydd o'r seithfed mis cynhelir Dydd y Cymod; bydd yn gymanfa sanctaidd ichwi, a byddwch yn ymddarostwng ac yn cyflwyno aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.

28 Nid ydych i wneud unrhyw waith y diwrnod hwnnw, am ei fod yn Ddydd y Cymod, pan wneir cymod drosoch gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.

29 Bydd unrhyw un na fydd yn ymddarostwng y diwrnod hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.

30 Byddaf yn difa o blith ei bobl unrhyw un a fydd yn gweithio y diwrnod hwnnw.

31 Ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.

32 Y mae'n Saboth o orffwys ichwi, ac yr ydych i ymddarostwng. O gyfnos nawfed dydd y mis hyd y cyfnos drannoeth yr ydych i gadw eich Saboth yn orffwys.”

Gŵyl y Pebyll

33 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

34 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis cynhelir gŵyl y Pebyll i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.

35 Bydd y diwrnod cyntaf yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.

36 Am saith diwrnod yr ydych i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, ac ar yr wythfed diwrnod bydd gennych gynulliad sanctaidd, pan fyddwch yn cyflwyno aberth trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma'r cynulliad terfynol, ac nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.

37 “ ‘Dyma'r gwyliau i'r ARGLWYDD a gyhoeddwch yn gymanfaoedd sanctaidd i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, sef y poethoffrymau, y bwydoffrymau, yr aberthau a'r diodoffrymau ar gyfer pob diwrnod.

38 Y mae'r rhain yn ychwanegol at offrymau Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich holl addunedau a'ch holl offrymau gwirfodd a roddwch i'r ARGLWYDD.

39 “ ‘Felly, ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, ar ôl ichwi gasglu cynnyrch y tir, cynhaliwch ŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod; bydd y diwrnod cyntaf yn ddiwrnod gorffwys a'r wythfed diwrnod yn ddiwrnod gorffwys.

40 Ar y diwrnod cyntaf yr ydych i gymryd blaenffrwyth gorau'r coed, canghennau palmwydd, brigau deiliog a helyg yr afon, a llawenhau o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod.

41 Dathlwch yr ŵyl hon i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau, eich bod i'w dathlu yn y seithfed mis.

42 Yr ydych i fyw mewn pebyll am saith diwrnod; y mae holl frodorion Israel i fyw mewn pebyll,

43 er mwyn i'ch disgynyddion wybod imi wneud i bobl Israel fyw mewn pebyll pan ddeuthum â hwy allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”

44 Cyhoeddodd Moses holl wyliau'r ARGLWYDD i bobl Israel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27