Lefiticus 24 BCND

Gofalu am y Lampau

1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2 “Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur o olifiau wedi eu gwasgu, a'i roi iti ar gyfer y goleuni, er mwyn cadw'r lamp ynghynn bob amser.

3 Y tu allan i len y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod y mae Aaron i ofalu bob amser am lamp o flaen yr ARGLWYDD o'r cyfnos hyd y bore; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau.

4 Y mae'n rhaid gofalu bob amser am y lampau yn y canhwyllbren aur o flaen yr ARGLWYDD.

Bara'r ARGLWYDD

5 “Cymer beilliaid a phobi deuddeg torth, a phob torth yn bumed ran o effa.

6 Gosod hwy'n ddwy res, chwech ymhob rhes, ar y bwrdd aur o flaen yr ARGLWYDD.

7 Rho thus pur ar y ddwy res, iddo fod ar y bara yn goffa ac yn aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.

8 Rhaid gosod y bara hwn o flaen yr ARGLWYDD bob amser, Saboth ar ôl Saboth, yn gyfamod tragwyddol ar ran pobl Israel.

9 Bydd yn eiddo i Aaron a'i feibion, a byddant yn ei fwyta mewn lle sanctaidd, oherwydd dyma'r rhan sancteiddiaf o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD trwy ddeddf dragwyddol.”

Llabyddio Cablwr

10 Yr oedd mab i wraig o Israel, a'i dad yn Eifftiwr, yn ymdeithio ymhlith pobl Israel, a chododd cynnen yn y gwersyll rhyngddo ef ac un o waed Israelig pur.

11 Cablodd mab y wraig o Israel enw Duw trwy felltithio, a daethant ag ef at Moses. Enw ei fam oedd Selomith ferch Dibri o lwyth Dan.

12 Rhoddwyd ef yng ngharchar nes iddynt gael gwybod ewyllys yr ARGLWYDD.

13 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

14 “Dos â'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll; y mae pob un a'i clywodd i roi ei law ar ei ben, ac y mae'r holl gynulliad i'w labyddio.

15 Dywed wrth bobl Israel, ‘Y mae pob un sy'n melltithio ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod;

16 y mae pob un sy'n cablu enw'r ARGLWYDD i'w roi i farwolaeth, a'r holl gynulliad i'w labyddio. Pwy bynnag sy'n cablu enw Duw, boed estron neu frodor, rhaid iddo farw.

17 “ ‘Os bydd rhywun yn cymryd bywyd rhywun arall rhaid ei roi i farwolaeth.

18 Os bydd rhywun yn lladd anifail rhywun arall, rhaid iddo wneud iawn, einioes am einioes.

19 Os bydd rhywun yn niweidio'i gymydog, rhaid gwneud yr un peth iddo yntau,

20 briw am friw, llygad am lygad, dant am ddant. Fel y bu iddo ef achosi niwed, felly y gwneir iddo yntau.

21 Os bydd rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn; ond os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhaid ei roi i farwolaeth.

22 Yr un fydd y rheol ar gyfer estron a brodor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”

23 Llefarodd Moses wrth bobl Israel, ac yna aethant â'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio â cherrig. Gwnaeth pobl Israel fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27