1 “ ‘Os heddoffrwm fydd ei rodd, ac yntau'n dod ag anifail o'r gyr, boed wryw neu fenyw, dylai gyflwyno i'r ARGLWYDD anifail di-nam.
2 Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd wrth ddrws pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.
3 O'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
4 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
5 Bydd meibion Aaron yn ei losgi ar yr allor, ar ben y poethoffrwm sydd ar y coed sy'n llosgi, a bydd yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
6 “ ‘Os rhodd o'r praidd fydd yr heddoffrwm i'r ARGLWYDD, dylai gyflwyno gwryw neu fenyw ddi-nam.
7 Os bydd yn offrymu oen yn rhodd, y mae i'w gyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.
8 Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.
9 O'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: ei fraster, y gynffon fras yn gyfan ac wedi ei thynnu i ffwrdd yn agos at yr asgwrn cefn, y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
10 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
11 Hyn fydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
12 “ ‘Os gafr fydd y rhodd, dylai ei chyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.
13 Y mae i osod ei law ar ei phen a'i lladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i gwaed ar bob ochr i'r allor.
14 Ohoni y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
15 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
16 Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd; bydd yr holl fraster yn eiddo i'r ARGLWYDD.
17 “ ‘Bydd hon yn ddeddf barhaol dros yr holl genedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw: nid ydych i fwyta braster na gwaed.’ ”