14 Felly, pan fyddwch yn gwerthu neu'n prynu tir ymysg eich gilydd, peidiwch â chymryd mantais ar eich gilydd.
15 Yr ydych i brynu oddi wrth eich gilydd yn ôl nifer y blynyddoedd oddi ar y jwbili, ac i werthu i'ch gilydd yn ôl nifer y blynyddoedd sydd ar gyfer cynnyrch.
16 Pan fydd y blynyddoedd yn niferus, yr ydych i godi'r pris, ond pan fydd y blynyddoedd yn ychydig, yr ydych i'w ostwng, oherwydd yr hyn a werthir yw nifer y cnydau.
17 Peidiwch â chymryd mantais ar eich gilydd, ond ofnwch eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
18 Ufuddhewch i'm deddfau, a chadwch fy ngorchmynion a'u gwneud, a chewch fyw'n ddiogel yn y wlad.
19 Bydd y wlad yn rhoi ei ffrwyth, a chewch fwyta i'ch digoni a byw yno'n ddiogel.
20 Os gofynnwch, “Beth a fwytawn yn y seithfed flwyddyn, gan na fyddwn yn hau nac yn medi ein cynhaeaf?”