31 Gwnaf eich dinasoedd yn adfeilion, dinistriaf eich cysegrleoedd, ac nid aroglaf eich arogl peraidd.
32 Byddaf yn gwneud y tir yn ddiffaith, a bydd eich gelynion sy'n byw yno wedi eu syfrdanu.
33 Fe'ch gwasgaraf ymysg y cenhedloedd, a byddaf yn dinoethi fy nghleddyf i'ch ymlid; bydd eich tir yn ddiffaith a'ch dinasoedd yn adfeilion.
34 Yna bydd y wlad yn mwynhau ei Sabothau dros yr holl amser y bydd yn ddiffaith; tra byddwch chwi yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys ac yn mwynhau ei Sabothau.
35 Dros yr holl amser y bydd yn ddiffaith, bydd y wlad yn cael y gorffwys nas cafodd ar y Sabothau pan oeddech chwi'n byw yno.
36 Ac am y rhai ohonoch a adewir, gwnaf eu calonnau mor ofnus yng ngwledydd eu gelynion fel y bydd siffrwd deilen yn ysgwyd yn peri iddynt ffoi. Byddant yn ffoi fel pe o flaen cleddyf, ac yn cwympo heb neb yn eu hymlid.
37 Byddant yn syrthio ar draws ei gilydd, fel pe'n dianc rhag cleddyf, heb neb yn eu hymlid. Felly ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion.