7 Dywedodd Moses wrth Aaron, “Nesâ at yr allor ac offryma dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun a thros y bobl; abertha offrwm y bobl a gwna gymod drostynt, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.”
8 Felly daeth Aaron at yr allor a lladd llo yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun.
9 Yna daeth ei feibion â'r gwaed ato, a throchodd yntau ei fys yn y gwaed a'i roi ar gyrn yr allor; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor.
10 Llosgodd ar yr allor y braster, yr arennau a gorchudd yr iau o'r aberth dros bechod, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses;
11 llosgodd yn y tân y cnawd a'r croen y tu allan i'r gwersyll.
12 Yna lladdodd Aaron y poethoffrwm; daeth ei feibion â'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.
13 Rhoddasant iddo'r poethoffrwm fesul darn, gan gynnwys y pen, ac fe'u llosgodd ar yr allor.