1 Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a'i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr:
2 A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant.
3 A'r gŵr hwn a âi i fyny o'i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i'r Arglwydd yno.
4 Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i'w meibion a'i merched oll, rannau.
5 Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi;
6 A'i gwrthwynebwraig a'i cyffrôdd hi i'w chythruddo, am i'r Arglwydd gau ei bru hi.
7 Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd, hi a'i cythruddai hi felly; fel yr wylai, ac na fwytâi.