1 Samuel 5 BWM

1 Ar Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a'i dygasant hi o Ebeneser i Asdod.

2 A'r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a'i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a'i gosodasant yn ymyl Dagon.

3 A'r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd. A hwy a gymerasant Dagon, ac a'i gosodasant eilwaith yn ei le.

4 Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.

5 Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn.

6 A thrwm fu llaw yr Arglwydd ar yr Asdodiaid; ac efe a'u distrywiodd hwynt, ac a'u trawodd hwynt, sef Asdod a'i therfynau, â chlwyf y marchogion.

7 A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw.

8 Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi'r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch Duw Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno.

9 Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd.

10 Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron. A phan ddaeth arch Duw i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel, i'n lladd ni a'n pobl.

11 Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi'r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch Duw Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a'n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy'r holl ddinas; trom iawn oedd llaw Duw yno.

12 A'r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i'r nefoedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31