1 Samuel 24 BWM

1 A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi.

2 Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a'i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion.

3 Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a'i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof.

4 A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel.

5 Ac wedi hyn calon Dafydd a'i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul.

6 Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i'm meistr, eneiniog yr Arglwydd, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr Arglwydd yw efe.

7 Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o'r ogof, ac a aeth i ffordd.

8 Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o'r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o'i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua'r ddaear, ac a ymgrymodd.

9 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti?

10 Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i'r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a'th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr Arglwydd yw efe.

11 Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i'th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i'w dala hi.

12 Barned yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, a dialed yr Arglwydd fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

13 Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti.

14 Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ci marw, ar ôl chwannen.

15 Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o'th law di.

16 A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

17 Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg.

18 A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni'm lleddaist.

19 Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn.

20 Ac wele yn awr, mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di.

21 Twng dithau wrthyf fi yn awr i'r Arglwydd, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad.

22 A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i'w dŷ: Dafydd hefyd a'i wŷr a aethant i fyny i'r amddiffynfa.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31