22 Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ac y trigo byth.
23 Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.
24 A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a'i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a'i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo: a'r bachgen yn ieuanc.
25 A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli.
26 A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr Arglwydd.
27 Am y bachgen hwn y gweddïais; a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo:
28 Minnau hefyd a'i rhoddais ef i'r Arglwydd; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i'r Arglwydd. Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno.